Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10
Gorffennaf 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(15 munud)
NDM6760 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bill documents — Non-Domestic Rating (Nursery Grounds) Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
(30 munud)
NDM6748 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 19 Mehefin 2018.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
vi. manylion unrhyw ddiwygiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y’u nodir yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfen Ategol
(60 munud)
NDM6764 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru; ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon – mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw.
2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gosod sylfaen ar gyfer adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o ofynion o ran tai.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu amodau sy’n ysgogi arloesedd a gwelliannau o ran dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’r tai a ddarperir.
4. Yn nodi cwmpas yr adolygiad tai fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt.
Cafodd cwmpas yr Adolygiad Tai Fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt eu hanfon mewn e-bost at yr Aelodau ar 3 Gorffennaf 2018.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.
2. Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
3. Yn cydnabod cadernid amcanestyniad amgen y diweddar Athro Holman, 'Future Need and Demand for Housing in Wales', fel sail ar gyfer rhagweld yr angen am dai.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i efelychu uchelgais cymdeithasau tai Cymru sy'n anelu at ddyblu'r gyfradd bresennol o dai newydd a gaiff eu hadeiladu er mwyn cyflawni 75,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru erbyn 2036.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannnau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 -
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu "ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon – mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw" a rhoi "ac yn gresynu bod llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu ym mhob un o'r chwe blynedd ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar eu cyfer" yn ei le.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu 'uchelgeisiol' o bwynt 1.
Gwelliant 4 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod cyngor a dadansoddiad annibynnol wedi dangos na fydd 20,000 o gartrefi fforddiadwy dros dymor y Cynulliad hwn yn bodloni'r anghenion presennol na'r anghenion yn y dyfodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael cynllun tymor hir ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y gellir cyflawni hyn mewn ffyrdd gwahanol.
Yn galw ar yr holl dai cymdeithasol a chyngor newydd, lle bo'n bosibl, i gael paneli solar wedi'u gosod i sicrhau bod tenantiaid yn gallu elwa ar filiau ynni is.
Yn gresynu bod nifer y cartrefi gwag yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru.
Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
Yn galw ar yr adolygiad o dai fforddiadwy i ystyried y cyd-destun ehangach o ran mynediad i wasanaethau cyhoeddus mewn ystadau newydd, gan nodi y gall mynediad gwael i wasanaethau cyhoeddus arwain at gynnydd sylweddol yn y costau y mae pobl ar incwm isel sy'n byw mewn ystadau o'r fath yn eu hwynebu.
Yn galw ar yr adolygiad i gynnwys grwpiau tenantiaid a'r rhai sydd yn y sector rhentu preifat, fel y gallant lywio'r dirwedd tai cymdeithasol a thai rhent yn y dyfodol yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 5 -
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai modiwlar er mwyn darparu unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn gyflym.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2018